Neidio i’r cynnwys
Si-lwli Cymru
0 eitem yn y fasged

Basged

Mae eich basged yn wag

Llun cynnyrch wedi’i chwyddo

Loli - Tegan Meddal - Canu a Siarad Cymraeg

Llun cynnyrch wedi’i chwyddo

Loli - Tegan Meddal - Canu a Siarad Cymraeg

Llun cynnyrch wedi’i chwyddo

Loli - Tegan Meddal - Canu a Siarad Cymraeg

Llun cynnyrch wedi’i chwyddo

Loli - Tegan Meddal - Canu a Siarad Cymraeg

Llun cynnyrch wedi’i chwyddo

Loli - Tegan Meddal - Canu a Siarad Cymraeg

Llun cynnyrch wedi’i chwyddo

Loli - Tegan Meddal - Canu a Siarad Cymraeg

Si-Lwli Cymru

Loli - Tegan Meddal - Canu a Siarad Cymraeg

Pris: £29.99

Manylion y cynnyrch

Disgrifiad

Ar gael fel bwndel gyda Deian - Bwndel Deian a Loli  

Croeso i aelodau mwyaf newydd o deulu teganau cerddorol Si-lwli Cymru! Ond mae'r teganau yma bach yn wahanol i'r arfer - gan y maent yn canu ac yn siarad yn y Gymraeg - y gyntaf o'r fath!  Syniad a ddoth o'r cyfnod clo nol yn 2020. 3 mlynedd galed o waith datblygu, a dyma nhw yn barod am y byd!! RIBIDIREW!! AC I FFWRDD A NI!!!

Mae Loli( o Deian a Loli) wastad yn barod am antur! Yr anrheg berffaith i blantos Cymru. Mae Loli llawn talent, ac yn canu alaw Deian a Loli pan yr ydych yn gwasgu'r botwm sain ar ei law, ond hefyd mae hi'n siarad 27 o  frawddegau gwahanol pan yr ydych yn gwasgu'r botwm ar ei fol:-

1. Helo - Deian a Loli Dani; 2. Ond mae gennyn ni gyfrinath; 3. Dewch hefo ni; 4. Ribidirew; 5. A dyna pryd geishi syniad; 6. A dyna'r diwrnod wnaethon ni sylweddoli fod Mam a Dad yn iawn; 7.  Dim ffiars bod ni'n mynd i'r gwely wan; 8. Dos di cynta (sibrwd) 9. Hwrw Hwre Hwre! 10. Gwna dy hun yn fach; 11.  Nawn ni helpu; 12. Tyrd - hefo'n gilydd; 13. Hwyl fawr; 14. Diolch ; 15. Ond tydy hyna ddim yn deg; 16. A dyma fi'n gael y syniad gorau erioed; 17. Oedd hyna'n lwcus; 18. Erm, Esgusodwch fi; 19. Mae'n rhaid ni weithio hefo'n gilydd; 20. Ac i ffwrdd a ni; 21. Wow; 22. Be goblyn sy'n mynd ymlaen?; 23. Ssshht, clywest ti hwna? 24. Tyrd Deian! 25. Hwn ydy'r diwrnod gorau erioed! 26.  Mae hyn yn ddiflas! 27.  Doedd'na mond un peth amdani!

Dim gwahaniaeth os ma'ch plentyn yn dilyn Deian a Loli ar y teledu neu beidio - does ddim tegan tebyg i hwn ar y farchnad, ac maent siŵr o fynd a Deian a Loli hefo nhw ar bob antur o hyn allan!!

Gwych ar gyfer ddatblygu:-

- Llythrynnedd; 

- Cyfathrebu;

- Helpu hefo ynganu'n gywir;

- Dysgu Cymraeg trwy chwarae;

- Normaleiddio'r iaith yn y cartref;

- Creadigrwydd;

- sgiliau echddygol manwl;

- Sgiligau Cymdeithasol;

- Datblygu annibyniaeth;

- Empathi

  • 12cm x 30cm x 10cm
  • Addas o 3+
  • UKCA
  • Yn cymryd 3 x batri AAA

Cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio Doliau Deian a Loli™

Efallai yr hoffech chi hefyd