![Image Unavailable](http://www.silwli.cymru/cdn/shop/products/9781849674959_4e67f222-a0b2-4c11-b67e-dbb644da3cec_{width}x.jpg?v=1671315679)
Mae hi’n amser Nadolig, ac mae Peppa’n edrych ymlaen yn fawr at ddrama Nadolig yr ysgol feithrin! Mae’r plant i gyd wedi gwisgo yn eu gwisgoedd gwych, ac ar ôl cyfarfod annisgwyl yn yr archfarchnad, mae Peppa wedi gwahodd Siôn Corn i ddod hefyd. Ond y Nadolig ydy’r amser prysuraf i Siôn Corn … a fydd e’n llwyddo i gyrraedd mewn pryd?