
Mae Heini yn gymeriad poblogaidd ar raglenni CYW, S4C. Yn y jig-so 50 darn, bydd Heini’n annog plant i fwyta’n iach trwy gyflwyno darluniau amrywiol a lliwgar o ffrwythau a llysiau. Bydd plant yn mwynhau dod i adnabod y bwydydd a dysgu’r enwau Cymraeg a Saesneg. Un o’n jig-sos mwyaf poblogaidd! Mae Larsen yn un o’r gwneuthurwyr jig-sos gorau yn y byd ac mae Atebol yn falch o fod yn ddosbarthwr Prydeinig ar gyfer y cwmni.