
Jig-so gwreiddiol gan Atebol, wedi'i ddarlunio gan yr amryddawn Lizzie Spikes o Geredigion. Mae'r jig-so yn cynnwys y rhigwm 'Nos Da, cysga dy ora' a delwedd trawiadol sy'n dod â'r geiriau yn fyw i blant bach dros 3 oed. Anrheg perffaith a chwaethus yn cynnwys 50 o ddarnau, rhai ohonynt mewn siapiau diddorol.