![Image Unavailable](http://www.silwli.cymru/cdn/shop/products/getimg_8323c627-d3e8-4490-945b-cb7a18f28a44_{width}x.jpg?v=1646770049)
Deg oed oedd Mari Jones, ac roedd hi wrth ei bodd gan ei bod hi newydd ddysgu darllen y Beibl. 'Dwi'n mynd i brynu Beibl,' meddai wrth ei mam. Ond roedd Mari a'i mam yn dlawd, a gwaith anodd oedd casglu'r pres. Cerddodd Mari Jones yn droednoeth bob cam o Lanfihangel-y-Pennant i'r Bala i brynu ei Beibl. 25 milltir oedd hyd y daith, ond mae stori Mari wedi teithio ledled y byd.