![Image Unavailable](http://www.silwli.cymru/cdn/shop/products/getimg_582dd355-7801-4799-bf22-80960e78cd74_{width}x.jpg?v=1646303098)
Cyfuniad deniadol rhwng stori annwyl Manon Steffan Ros a lluniau lliwgar Jac Jones sy'n dod â'r testun yn fyw i'r darllenwyr ifanc. Cyhoeddodd y ddau Dafydd a Dad ar y cyd yn 2013. Mae'r stori yn ein hannog i beidio â beirniadu rhywun sy'n edrych ac yn ymddwyn yn wahanol i ni, a bod rhaid parchu pawb. Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2020.