
Set chwarae yn cynnwys llyfr bwrdd gyda darnau jigso lliwgar a chadarn sy'n ffitio yn y tudalennau. Bydd plant bach wrth eu bodd yn dysgu eu geiriau cyntaf trwy gyfateb delweddau â geiriau ar y tudalennau. Adnodd sy'n annog plant i gyd-chwarae gan ddarparu oriau o hwyl! Dwyieithog. Adargraffu. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2017.