![Image Unavailable](http://www.silwli.cymru/cdn/shop/products/getimg_2d7f23e7-02db-467f-a2a0-e13eacd0e14f_{width}x.jpg?v=1646770047)
Mae rhai pobl yn gallu canu'r delyn ac eraill yn gallu reslo. Mae rhai'n gallu pedoli ceffyl. Does fawr neb sy'n gallu gwneud y tri pheth! Ddwy ganrif yn ôl, roedd yna ddynes yn byw yn Eryri oedd yn medru gwneud hyn i gyd yn ogystal â gwehyddu, adeiladu a rhwyfo cychod, cyfansoddi a chanu caneuon, a rhedeg t? tafarn. Roedd Marged ferch Ifan yn gawres gref na fyddai'n derbyn lol gan neb.