
Llyfr sy'n gydymaith i'r atlas lluniau newydd Cymru ar y Map. Ceir ynddo weithgareddau hwyliog yn cynnwys posau, lliwio, dot-i-ddot, chwilio am y gwahaniaeth a llawer mwy, oll yn seiliedig ar enwogion, llefydd, anifeiliaid, chwaraeon a llu o ffeithiau difyr eraill am Gymru. Fersiwn Saesneg o'r teitl yw Wales on the Map: Activity Book.