
Llyfr stori-a-llun hwyliog mewn mydr ac odl am ddau frawd sy'n chwarae rygbi gan freuddwydio am gynrychioli eu gwlad. Yn eu dychymyg, y cae ger eu cartref yw Stadiwm y Mileniwm, cân y fwyalchen yw chwiban y dyfarnwr i ddechrau'r gêm a rhaid gosod y bêl ar gyfer y trosiad tyngedfennol ar dwmpath y wahadden.